Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Gorffennaf 2017
Amser: 09.21 -
11.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4170
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Karen Jewell, Llywodraeth Cymru Joanna Jordan, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Rebekah James (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod(PDF 546KB) Gweld fel HTML(240KB)
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn ar y canlynol:
· Amserlenni ynghylch pryd y bydd darlun data llawn y Bwrdd Iechyd ar gael, sy'n cynnwys nifer y menywod sydd wedi cael eu cyfeirio a'u gweld gan seicolegwyr a'r rhai a atgyfeiriwyd ond nad ydynt yn gallu cael mynediad at seicolegydd.
· Y diweddaraf am argaeledd mynediad i driniaeth siarad wyneb yn wyneb.
· Nodyn ar y dystiolaeth a roddwyd gan Gymdeithas Seicolegol Prydain bod y rhai sy’n cyflwyno gwasanaethau seicoleg amenedigol yng Nghymru yn gorfod ceisio goruchwyliaeth y tu allan i Gymru, o ganlyniad i ddiffyg seicolegydd amenedigol ymgynghorol yng Nghymru.
· Diweddariad yn dilyn cyfarfod y cyd Bwyllgor ar 25 Gorffennaf i drafod yr adolygiad o'r galw am wasanaethau haen 4.
· Nodyn ar unrhyw ymchwil sydd ar gael ar effaith methu bwydo ar y fron, ac a yw hyn yn sbardun i iselder ôl-enedigol a pha gamau sy'n cael eu cymryd gan staff rheng flaen i gefnogi mamau sy'n bwydo ar y fron.
Nodwyd y papurau.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad. Caiff adroddiad drafft ei drafod ar ddechrau tymor yr hydref.